Genesis 36

Disgynyddion Esau

(1 Cronicl 1:34-37)

1Dyma hanes teulu Esau (sef Edom):

2Roedd Esau wedi priodi merched o Canaan: Ada (merch Elon yr Hethiad), Oholibama (merch Ana ac wyres Sibeon yr Hefiad), 3a Basemath (merch Ishmael a chwaer Nebaioth).

4Cafodd Ada fab i Esau, sef Eliffas.
Cafodd Basemath fab, sef Reuel,
5a cafodd Oholibama dri o fechgyn, sef Iewsh, Ialam a Cora.

Dyma enwau'r meibion gafodd Esau pan oedd yng ngwlad Canaan.

6Symudodd Esau i ffwrdd i wlad oedd yn reit bell oddi wrth ei frawd Jacob. Aeth â'i wragedd gydag e, a'i feibion a'i ferched, a phawb arall oedd gydag e, a'i anifeiliaid a'r holl eiddo oedd wedi ei gasglu pan oedd yn byw yng ngwlad Canaan. 7Roedd gan y ddau ormod o anifeiliaid i allu byw gyda'i gilydd – doedd y tir ddim yn gallu cynnal y cwbl. 8Felly dyma Esau (sef Edom) yn setlo ym mryniau Seir.

9Dyma hanes teulu Esau (Ohono fe y daeth pobl Edom, sy'n byw ym mryniau Seir):

10Enwau meibion Esau:

Eliffas (mab Ada, gwraig Esau), Reuel (mab Basemath, gwraig Esau)

11Enwau meibion Eliffas:

Teman, Omar, Seffo, Gatam a Cenas. 12Y rhain oedd disgynyddion Ada gwraig Esau. (Roedd gan Eliffas, mab Esau, bartner
36:12 bartner Mae'r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair.
o'r enw Timna hefyd. Cafodd hi fab i Eliffas, sef Amalec.)

13Enwau meibion Reuel:

Nachath, Serach, Shamma a Missa. Y rhain oedd disgynyddion Basemath gwraig Esau.

14A dyma enwau meibion Oholibama (merch Ana ac wyres Sibeon): cafodd dri o feibion i Esau, sef Iewsh, Ialam a Cora.

15Roedd disgynyddion Esau yn arweinwyr llwythau gwahanol:

Disgynyddion Eliffas (mab hynaf Esau) oedd arweinwyr llwythau Teman, Omar, Seffo, Cenas, 16Cora, Gatam ac Amalec. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn Edom i gyd yn ddisgynyddion i Eliffas ac Ada.
17Disgynyddion Reuel (mab Esau) oedd arweinwyr llwythau Nachath, Serach, Shamma a Missa. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn Edom i gyd yn ddisgynyddion i Eliffas a Basemath.
18Wedyn dyma ddisgynyddion Oholibama (gwraig arall Esau): arweinwyr llwythau Iewsh, Ialam a Cora. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn ddisgynyddion i Esau ac Oholibama (merch Ana).

19Mae'r rhain i gyd yn ddisgynyddion i Esau – dyma arweinwyr llwythau Edom.

Disgynyddion Seir

(1 Cronicl 1:38-42)

20A dyma feibion Seir yr Horiad, oedd yn byw yn y wlad o'r blaen:

Lotan, Shofal, Sibeon, Ana, 21Dishon, Etser a Dishan. Y rhain oedd arweinwyr llwythau'r Horiaid, disgynyddion Seir sy'n byw yng ngwlad Edom.

22Meibion Lotan oedd Chori a Homam (a Timna oedd chwaer Lotan).
23Meibion Shofal oedd Alfan, Manachath, Ebal, Sheffo ac Onam.
24Meibion Sibeon oedd Aia ac Ana (sef yr Ana ddarganfyddodd y ffynhonnau yn yr anialwch pan oedd yn gofalu am asynnod ei dad Sibeon).
25Plant Ana oedd Dishon ac Oholibama (merch Ana).
26Meibion Dishon oedd Chemdan, Eshban, Ithran a Ceran.
27Meibion Etser oedd Bilhan, Saafan ac Acan.
28Meibion Dishan oedd Us ac Aran.

29Dyma arweinwyr llwythau'r Horiaid (Lotan, Shofal, Sibeon, Ana, 30Dishon, Etser a Dishan.) Y rhain oedd arweinwyr llwythau'r Horiaid yng ngwlad Seir.

Brenhinoedd Edom

(1 Cronicl 1:43-54)

31Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin:

32Roedd Bela fab Beor o dre Dinhaba yn frenin ar Edom.
33Ar ôl i Bela farw, daeth Iobab fab Serach o Bosra yn frenin yn ei le.
34Ar ôl i Iobab farw, daeth Chwsham o ardal Teman yn frenin yn ei le.
35Ar ôl i Chwsham farw, daeth Hadad fab Bedad o dre Afith yn frenin yn ei le. Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.
36Ar ôl i Hadad farw, daeth Samla o Masreca yn frenin yn ei le.
37Ar ôl i Samla farw, daeth Saul o Rehoboth-ger-yr-Afon yn frenin yn ei le.
38Ar ôl i Saul farw, daeth Baal-chanan fab Achbor yn frenin yn ei le.
39Wedyn ar ôl i Baal-chanan fab Achbor farw daeth Hadar o dre Paw yn frenin yn ei le. Enw gwraig Hadar oedd Mehetafél (merch Matred ac wyres Me-sahab).

40Dyma enwau arweinwyr llwythau Esau – pob llwyth yn byw mewn ardal arbennig o'r wlad:

Timna, Alfa, Ietheth, 41Oholibama, Ela, Pinon, 42Cenas, Teman, Miftsar, 43Magdiel ac Iram.

Y rhain oedd arweinwyr llwythau Edom (sef Esau, tad pobl Edom) – pob un yn byw yn y rhan o'r wlad roedd wedi ei meddiannu.

Copyright information for CYM